Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
E&S(4)-05-11 papur 4
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
Cefndir
Y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC) yw’r offeryn a ddefnyddir gan yr Undeb
Ewropeaidd i reoli pysgodfeydd a dyframaeth. Fe’i hadolygir bob hyn a hyn, ac fe’i diwygiwyd ddiwethaf yn 2002. Fodd bynnag, cytunir yn gyffredinol nad yw diwygiadau 2002 wedi creu sector pysgota cynaliadwy. Ar 13 Gorffennaf 2011, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei gynigion ar gyfer diwygio’r polisi, gan ddatgan bod angen newidiadau sylfaenol iddo.
Disgwylir y bydd ail gynnig ategol ar gyfer sefydlu Cronfa Forol a Physgodfeydd Ewrop, sef yr offeryn ariannol a fydd yn cefnogi ymdrechion i weithredu’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin diwygiedig ar ôl 2013, yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2011.
Bydd y cynigion a wneir gan y Comisiwn a fydd yn berthnasol i bysgodfeydd bach neu a fydd yn effeithio arnynt, yn ogystal â chynigion a fydd yn ymwneud â datblygiad economaidd cymunedau arfordirol, o bwysigrwydd penodol i Gymru.
Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn clywed barn rhanddeiliaid ar gynigion y Comisiwn ac i ddilyn y trafodaethau a gynhelir arnynt wrth iddynt ddatblygu dros y flwyddyn nesaf.
¡ Asesu effaith posibl cynigion y Comisiwn ar Gymru ac ar Barth Pysgodfeydd Cymru, ac ystyried y goblygiadau ehangach i foroedd tiriogaethol Cymru a fydd yn deillio o’r cynigion ar gyfer sector pysgodfeydd Ewrop.
¡ Gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch y materion y dylai’r Llywodraeth eu blaenoriaethu yn ystod y trafodaethau ar y broses ddiwygio.
¡ Bod yn fforwm lle gall rhanddeiliaid yng Nghymru ymgysylltu â’r ddadl dros ddyfodol y polisi.
¡ Er mwyn dylanwadu ar y ddadl ehangach ar y PPC, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ceisio rhannu ei gasgliadau â chyrff Seneddol y DU, y Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop a chyrff perthnasol eraill yn Ewrop, fel Pwyllgor y Rhanbarthau.
Bydd y Grŵp yn ystyried:
¡ Beth allai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd eu golygu i Gymru ac i reolaeth Parth Pysgodfeydd Cymru? Yn benodol, a fyddai cynigion y Comisiwn i ddatganoli’r rheolaeth o bysgodfeydd o fudd i Gymru?
¡ Beth allai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd eu golygu o ran hyfywedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau arfordirol yng Nghymru?
¡ Pa effaith y gallai newidiadau yn y sector pysgodfeydd ehangach yn Ewrop ei chael ar Gymru?
¡ Beth ddylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu yn ystod y trafodaethau ar ddiwygio’r PPC er mwyn sicrhau canlyniadau buddiol i Gymru?
¡ Sut all Cymru sicrhau bod ei barn yn cael ei hystyried yn y trafodaethau?